Cwcis
Mae’r gwasanaeth gwneud cais am basbort ar-lein yn rhoi ffeiliau bach (a elwir yn ‘cwcis’) ar eich dyfais er mwyn:
- cofio pa negeseuon rydych wedi eu gweld fel nad ydych yn cael eu dangos eto
- deall sut rydych yn defnyddio’r gwasanaeth fel y gallwn ei ddiweddaru a’i wella
- storio’r wybodaeth a roddwch dros dro i gefnogi’ch cais
Dysgwch fwy am y cwcis rydyn ni’n eu defnyddio, beth ydyn nhw a phryd maen nhw’n yn dod i ben.
Cwcis dewisol
Cwcis sy’n mesur defnydd gwefan
Rydym yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Mae hyn yn ein helpu i wirio ei fod yn diwallu eich anghenion a gwneud gwelliannau.
Ni chaniateir i Google ddefnyddio na rhannu ein data dadansoddol a gallwch optio allan o gwcis Google Analytics.
Enw | Diben | Daw i ben |
---|---|---|
_ga | Defnyddir i wahaniaethu rhwng defnyddwyr | 2 flynedd |
_gat | Defnyddir i sbarduno cyfradd ceisiadau | 10 munud |
_gcl_au | Defnyddir gan Google Adsense ar gyfer arbrofi gydag effeithlonrwydd hysbysebu ar draws gwefannau sy’n defnyddio eu gwasanaethau | 3 mis |
_gid | Defnyddir i wahaniaethu rhwng defnyddwyr | 24 awr |
_gac | Yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud ag ymgyrch ar gyfer y defnyddiwr | 90 diwrnod |
Nid yw’r cwcis hyn yn eich adnabod chi’n bersonol. Gallwch barhau i wneud cais am basbort ar-lein os nad ydych yn derbyn cwcis sy’n mesur defnydd gwefan.
Cwcis hanfodol
Mae cwcis hanfodol yn cofio eich cynnydd trwy eich cais. Mae angen iddynt fod ymlaen bob amser.
Neges cwci rhagarweiniol
Pan ddefnyddiwch y gwasanaeth am y tro cyntaf rydym yn dangos ‘neges cwci’. Yna byddwn yn storio cwci ar eich cyfrifiadur fel ei fod yn gwybod i beidio â dangos y neges hon eto.
Enw | Diben | Daw i ben |
---|---|---|
ga-opt-in | Defnyddir i storio’ch dewis Google Analytics | 1 mis |
Cwcis sesiwn
Rydym yn storio cwcis sesiwn ar eich cyfrifiadur i helpu i gadw eich gwybodaeth yn ddiogel tra byddwch yn defnyddio’r gwasanaeth.
Enw | Diben | Daw i ben |
---|---|---|
hmpo.*.sid | Yn storio ID sesiwn ac yn storio data rydych chi’n ei nodi dros dro i’ch galluogi i gofrestru neu wneud cais | Pan fyddwch yn cau eich porwr |
lang | Yn storio eich dewis iaith | Pan fyddwch yn cau eich porwr |
pex-last-access | Yn storio’r amser y gwnaethoch chi gyrchu’r gwasanaeth ddiwethaf | 24 awr |
Canfod gwall
Enw | Diben | Daw i ben |
---|---|---|
hmpo-wizard-sc | Defnyddir i ganfod gwallau a dangos cynnwys perthnasol – e.e. os yw’ch sesiwn wedi dod i ben | Pan fyddwch yn cau eich porwr |
pex-submitted | Defnyddir i ganfod cais a gyflwynwyd yn flaenorol a dangos cynnwys perthnasol | 1 mis |
pex-cc | Defnyddir i ganfod a yw cwcis wedi’u galluogi a dangos cynnwys perthnasol | Pan fyddwch yn cau eich porwr |
Rwyf wedi treulio 20 munud ar y dudalen hon ac mae angen mwy o amser arnaf. Rhowch 30 munud arall i mi.