Telerau ac Amodau
Trwy wneud cais am basbort rydych yn cytuno i’r telerau ac amodau hyn.
Rydych yn cadarnhau eich bod chi neu’r ymgeisydd:
- yn wladolyn Prydeinig a heb golli nac ildio’ch statws cenedlaethol
- heb dorri telerau gorchymyn llys drwy wneud y cais hwn
- heb fod arnoch chi unrhyw arian i lywodraeth y DU ar gyfer costau dychwelyd, er enghraifft pan yw’r llywodraeth yn talu i’ch cael chi adref o dramor
- yn deall trwy wneud cais yn wirfoddol am basbort y DU y gallech golli dinasyddiaeth gwlad arall
- yn addo dweud wrth Swyddfa Basbort EF os cawsoch eich geni trwy fenthyg croth
Os mai cais am basbort plentyn yw hwn, rydych yn cadarnhau:
- mae gennych gyfrifoldeb rhiant
- byddwch yn anfon unrhyw orchmynion llys sy’n ymwneud â phreswylio’r plentyn, ei gyswllt neu ei symud o’r DU
Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth cyn y gallwn barhau â’ch cais.
Eich llun newydd
Rhaid i’ch llun newydd edrych fel chi ac ni ddylai fod wedi’i newid mewn unrhyw ffordd. Rhaid ei fod wedi ei dynnu yn y mis diweddaf.
Efallai y bydd lluniau sy’n pasio ein gwiriadau ar-lein yn dal yn anaddas ar gyfer eich pasbort newydd. Efallai y byddwn yn gofyn am lun digidol neu bapur gwahanol.
Eich pasbort newydd
Pan fyddwch chi’n cael eich pasbort newydd bydd rhaid i chi ei lofnodi â beiro du. Ni allwch ei ddefnyddio nes i chi wneud hynny.
Os na allwch lofnodi’ch enw, rhowch esboniad cyn i chi dalu. Bydd eich pasbort yn dangos ‘nid oes angen i’r deiliad lofnodi’.
Ffi pasbort
Rheolir taliadau gan gwmni o’r enw Worldpay. Maent yn gyfrifol am argaeledd eu gwasanaeth.
Gwneud cais gyda Gwirio ac Anfon Digidol Swyddfa’r Post
Rheolir taliadau gan Swyddfa’r Post. Bydd angen i chi dalu am y cais am basbort, ynghyd â ffi Swyddfa’r Post yng nghangen Swyddfa’r Post lle rydych yn gwneud cais.
Pasbortau sydd wedi’u colli, eu dwyn neu eu difrodi
Rydych yn cadarnhau y byddwch chi neu’r ymgeisydd yn:
- cysylltu â Swyddfa Basbort EF ar unwaith os bydd yr hen basbort yn cael ei golli, ei ddwyn neu ei ddifrodi ar ôl i chi wneud cais
- dychwelyd pasbort coll i swyddfa basbort y DU os daw i’ch meddiant
Gwneud cais gyda’r gwasanaeth safonol
Cansladau ac ad-daliadau
Ni chewch ad-daliad os:
- mae eich cais yn cael ei ohirio oherwydd bod angen i ni wneud gwiriadau ychwanegol
- nid ydym wedi derbyn eich hen basbort neu ddogfennau o fewn 90 diwrnod i gyflwyno eich cais
- rydym yn tynnu’ch cais yn ôl oherwydd nad ydym wedi derbyn yr holl wybodaeth rydym wedi gofyn amdani
- rydych yn canslo’ch cais neu nid oes gennych hawl i basbort
Gallwch ganslo’ch cais unrhyw bryd ond bydd angen i chi ei wneud yn ysgrifenedig. Cysylltwch â ni i ddysgu beth sydd angen i chi ei wneud.
Gwneud cais gyda’r Llwybr Carlam 1 wythnos neu Gwasanaeth Premiwm 1 diwrnod
Newidiadau a chansladau
I newid neu ganslo’ch apwyntiad, cysylltwch â ni. Ond os yw eich apwyntiad lai na 48 awr i ffwrdd:
- ni fyddwch yn gallu ei newid
- bydd tâl gweinyddol o £30 yn cael ei dynnu o’ch ad-daliad o’r ffi os byddwch yn ei ganslo
Ad-daliadau
Bydd unrhyw ad-daliadau yn cael eu credydu i’r cerdyn talu gwreiddiol ymhen 10 diwrnod gwaith.
Gwasanaeth Premiwm 1 diwrnod
Bydd eich cais yn cael ei wrthod a byddwch yn cael ad-daliad llawn os:
- rydych yn dweud wrthym fwy na 48 awr cyn eich apwyntiad eich bod wedi colli, dwyn neu ddifrodi’ch pasbort ers i chi wneud eich cais
Bydd eich cais yn cael ei wrthod a bydd tâl gweinyddol o £30 yn cael ei dynnu o’ch ad-daliad os:
- nad ydych yn dweud wrthym eich bod wedi colli, dwyn neu ddifrodi eich pasbort ers i chi wneud eich cais, neu rydych yn rhoi gwybod i ni o fewn 48 awr i’ch apwyntiad
- rydych eisoes wedi cyflwyno cais am basbort
- rydych yn 16 oed neu’n hŷn ac nid ydych erioed wedi cael pasbort Prydeinig
- mae eich pasbort yn llai dilys nag arfer (mae gan oedolion 16 neu hŷn basbort 10 mlynedd fel arfer, mae gan blant 15 neu iau basbort 5 mlynedd fel arfer)
- rydych yn gwneud cais ar ran rhywun na allant wneud eu penderfyniadau eu hunain
- rydych yn adnewyddu pasbort diplomyddol neu swyddogol
Ni chewch ad-daliad os:
- mae eich hen basbort wedi’i adrodd yn flaenorol fel un sydd wedi’i golli neu wedi’i ddwyn ac wedi’i ganslo
- rydych wedi newid eich enw ers eich pasbort diwethaf
- mae eich cais yn cael ei oedi oherwydd bod angen i ni wneud gwiriadau ychwanegol
- rydym yn eich symud i wasanaeth gwahanol ac mae’ch cais yn cymryd mwy o amser, er enghraifft rydych yn cael eich symud o Bremiwm 1 diwrnod i Lwybr Carlam 1 wythnos
- rydym yn tynnu’ch cais yn ôl oherwydd nad ydym wedi derbyn yr holl wybodaeth rydym wedi gofyn amdani
- nid oes gennych hawl i basbort
- rydych yn colli eich apwyntiad - bydd yn rhaid i chi wneud cais a thalu eto
Gwasanaeth Llwybr Cyflym 1 wythnos
Bydd eich cais yn cael ei wrthod a bydd tâl gweinyddol o £30 yn cael ei dynnu o’ch ad-daliad os:
- rydych eisoes wedi cyflwyno cais am basbort
- rydych yn 16 oed neu’n hŷn ac nid ydych erioed wedi cael pasbort Prydeinig
Bydd eich cais yn cael ei israddio i’r gwasanaeth safonol a byddwch yn gymwys i gael ad-daliad o’r gwahaniaeth rhwng y Llwybr Carlam 1 diwrnod a’r ffi safonol os:
- rydych yn gwneud cais am basbort plentyn cyntaf o dan Hawliau Cytuniad
- mae eich hawliad i genedligrwydd Prydeinig yn seiliedig ar wasanaeth coron neu gymunedol eich rhieni
Ni chewch ad-daliad os:
- mae eich cais yn cael ei oedi oherwydd bod angen i ni wneud gwiriadau ychwanegol
- rydym yn eich symud i wasanaeth gwahanol ac mae’ch cais yn cymryd mwy o amser, er enghraifft rydych yn cael eich symud o Lwybr Carlam 1 wythnos i’r safonol
- rydym yn tynnu’ch cais yn ôl oherwydd nad ydym wedi derbyn yr holl wybodaeth rydym wedi gofyn amdani
- nid oes gennych hawl i basbort
- rydych yn colli’ch apwyntiad - bydd rhaid i chi wneud cais a thalu eto
Yr apwyntiad
Rhaid i chi ddod ag unrhyw ddogfennau rydym wedi gofyn amdanynt gyda chi – bydd eich apwyntiad yn cael ei aildrefnu os na fyddwch yn gwneud hynny.
Gallwch anfon rhywun arall i’ch apwyntiad ar eich rhan. Os ydynt yn casglu’ch pasbort newydd, bydd angen iddynt ddod â/ag:
- eich hen basbort
- llythyr wedi’i lofnodi a’i ddyddio oddi wrthych chi, yn cadarnhau eu henw llawn ac yn rhoi caniatâd iddynt gasglu’ch pasbort
- prawf o bwy ydynt, er enghraifft trwydded yrru neu basbort