Neidio i’r prif gynnwys

Mae hwn yn wasanaeth newydd – bydd eich adborth (yn agor mewn tab newydd) yn ein helpu ni i’w wella.

Cymorth

Cysylltwch â Swyddfa Basbort Ei Fawrhydi (Swyddfa Basbort EF) i gael cymorth gyda’ch cais am basbort Prydeinig.

Sgwrs gwe

Siaradwch â chynghorydd ar-lein (yn agor mewn tab newydd) gan ddefnyddio sgwrs gwe.

Ffurflen ymholiad ar-lein

Defnyddiwch y ffurflen ymholiad ar-lein (yn agor mewn tab newydd) – cewch ateb o fewn 72 awr.

Teleffon

Ffoniwch y Llinell Gyngor Pasbortau:

Teleffon: 0300 222 0000
O’r tu allan i’r DU: +44 (0)300 222 0000
Cyfnewid testun (yn agor mewn tab newydd): 18001 0300 222 0000
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 8pm
Sadwrn, Sul a gwyliau banc y DU, 9am i 5:30pm
Dysgwch am gostau galwadau (yn agor mewn tab newydd)

Post

Anfon dogfennau ar gyfer eich cais am basbort

Bydd y cyfeiriad ar gyfer anfon dogfennau yn eich e-bost cadarnhau neu neges destun. Gallwch hefyd ddod o hyd iddo drwy fewngofnodi i olrhain ceisiadau (yn agor mewn tab newydd).

Os na allwch ddod o hyd i‘r cyfeiriad, anfonwch eich dogfennau i‘r naill neu‘r llall o‘r canlynol.
Ysgrifennwch rif cyfeirnod eich cais ar yr amlen.

Swyddfa Basbort EF
Long Croft Road
Corby
NN18 8UA

Swyddfa Basbort EF
Three Cherry Trees Lane
Hemel Hempstead
HP2 7HQ

Ni allwch ymweld â‘r naill gyfeiriad na‘r llall. Nid ydynt ar agor i‘r cyhoedd.

Ymholiadau a chwynion

Os oes gennych gwestiwn neu gŵyn ac na allwch gysylltu â ni dros y ffôn neu ar-lein, ysgrifennwch at:

Swyddfa Basbort EF
PO Box 767
Southport
PR8 9PW

Peidiwch ag anfon dogfennau cais am basbort i‘r cyfeiriad yn Southport. Bydd anfon dogfennau i‘r cyfeiriad hwn yn oedi eich cais.