Datganiad hygyrchedd ar gyfer Gwneud Cais am basport y DU

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r gwasanaeth gwneud cais am basbort y DU.

Mae’r wefan hon y cael ei rhedeg gan Swyddfa Basbort Ei Fawrhydi. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • chwyddo i mewn hyd at 300% heb i’r testun ollwng oddi ar y sgrin
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:

Bydd yn ein helpu os gallwch ddweud wrthym pa dechnoleg gynorthwyol a ddefnyddiwch.

Adrodd am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd I unrhyw broblemau, neu’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.

Y weithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ’rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwchu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Os ydych yng Ngogledd Iwerddon ac nad ydych yn hapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn gallwch gysylltu â’r Comisiwn Cydraddoldebau ar gyfer Gogledd Iwerddon sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Cheisiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ’rheoliadau hygyrchedd’) yng Ngogledd Iwerddon.

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni’n bersonol

Rydym yn darparu gwasanaeth trosglwyddo testun i bobl sy’n B/byddar, gyda nam ar eu clyw neu sydd â rhwystr lleferydd.

Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sain, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu cyfieithydd iaith arwyddion neu gymorth arall i’ch helpu i gwblhau’r gwasanaeth yn bersonol.

Darganfyddwch sut i gysylltu â ni.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Swyddfa Basbort Ei Fawrhydi wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llawn â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1.

Baich anghymesur

Ar hyn o bryd, nid ydym wedi gwneud unrhyw honiadau o faich anghymesur.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Ffeiliau PDF a dogfennau eraill. Mae rhai o’n ffeiliau PDF yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ffeiliau PDF y gall defnyddwyr eu defnyddio i gadarnhau eu hunaniaeth neu ddarparu prawf o dalu. Rydym yn bwriadu naill ai trwsio’r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle. Bydd unrhyw ffeiliau PDF newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 23 Medi 2020.

Fe’i adolygwyd ddiwethaf ar 3 Hydref 2023.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 13 Medi 2023 a gwiriwyd ei bod yn cydymffurfio â chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1. Cynhaliwyd profion gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol.

Profwyd y gwasanaeth ar sail gallu defnyddiwr i gwblhau teithiau allweddol. Profwyd pob rhan o’r teithiau a ddewiswyd, gan gynnwys dogfennau. Dewiswyd teithiau ar nifer o ffactorau gan gynnwys ystadegau defnydd, asesiadau risg a chynnwys.