Cadarnhau hunaniaeth rhywun


Sut i gadarnhau hunaniaeth rhywun

Ar gyfer ceisiadau gyda llun digidol, gallwch gadarnhau pwy yw rhywun ar-lein. Nid oes angen i chi lofnodi llun printiedig.

Beth sydd angen i’r ymgeisydd ei wneud

Fel yr ymgeisydd, bydd angen i chi:

  1. Wirio pwy all gadarnhau pwy ydych chi
  2. Cysylltwch â’r person cyn rhoi ei fanylion i Swyddfa Basbort EF.
  3. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod ei gyfeiriad/ei chyfeiriad a dyddiad geni, yn cynnwys y flwyddyn
  4. Mewngofnodwch i’ch cais i nodi enw ac e-bost yr unigolyn

Os ydych chi’n gwneud cais ar gyfer plentyn, rhaid i’r unigolyn allu cadarnhau ble ganed y plentyn yn ogystal ag enwau a dyddiadau geni’r rhieni.

Beth sydd angen i’r sawl sy’n cadarnhau pwy ydych chi ei wneud

Fel y person sy’n cadarnhau hunaniaeth rhywun, byddwch yn derbyn e-bost gan Swyddfa Basbort EF. Mae’r e-bost yn cynnwys dolen a chyfeirnod i fewngofnodi ar-lein.

Bydd angen i chi:

  1. Roi’r cyfeirnod o’r e-bost a dyddiad geni’r ymgeisydd
  2. Rhowch fanylion eich pasbort a’ch cyfeiriad cyfredol
  3. Ateb ambell gwestiwn am sut ydych chi’n adnabod yr ymgeisydd
  4. Gadarnhau rhai o fanylion yr ymgeisydd
  5. Gwirio llun pasbort digidol

Mae hyn yn cymryd oddeutu 10 munud.

Os yw’r ymgeisydd yn blentyn, bydd angen i chi ateb ambell gwestiwn am sut ydych chi’n adnabod y person sy’n gwneud y cais. Mae angen i ni gadarnhau bod gan y person sy’n ymgeisio gyfrifoldeb rhiant.

Os nad ydych yn ddeiliad pasbort y DU neu Iwerddon bydd angen i chi roi llungopi lliw o dudalen llun eich pasbort i’r ymgeisydd.