Cadarnhau hunaniaeth rhywun


Pwy all gadarnhau hunaniaeth rhywun

Ar gyfer rhai ceisiadau, mae Swyddfa Basbort EF angen rhywun i gadarnhau hunaniaeth yr ymgeisydd. Mae hyn yn helpu i ddiogelu eu hunaniaeth a gwirio bod y cais yn perthyn i’r person cywir.

Er mwyn cadarnhau hunaniaeth rhywun ar-lein, mae angen i chi:

  • fod yn 18 oed neu’n hŷn
  • a gweithio yn neu wedi ymddeol o broffesiwn cydnabyddedig

Rhaid i chi hefyd fod naill ai:

  • yn ddeiliad pasbort y DU yn byw yn y DU – os yw’r ymgeisydd yn byw yn ac yn gwneud cais o’r DU
  • yn ddeiliad pasbort cyfredol o’r DU, Gwyddelig neu UE, UD neu Gymanwlad arall – os yw’r ymgeisydd yn byw yn ac yn gwneud cais o’r tu allan i’r DU

Os nad ydych yn ddeiliad pasbort y DU neu un Gwyddelig bydd yn cymryd mwy o amser i ni brosesu’r cais.

Bydd angen eich bod wedi adnabod yr ymgeisydd, neu’r person sy’n gwneud y cais, yn bersonol ers o leiaf 2 flynedd – er enghraifft fel ffrind, cymydog neu gydweithiwr.

Ni ddylech fod yn perthyn, mewn perthynas, neu’n byw yn yr un cyfeiriad â’r ymgeisydd neu’r person sy’n gwneud y cais.

Proffesiynau cydnabyddedig

Rhaid eich bod yn gweithio mewn proffesiwn cydnabyddedig neu wedi ymddeol o un ac yn adnabod yr ymgeisydd yn bersonol.

Mae enghreifftiau o broffesiynau cydnabyddedig yn cynnwys:

  • cyfrifydd
  • peilot cwmni hedfan
  • clerc erthyglog mewn cwmni cyfyngedig
  • asiant sicrwydd mewn cwmni cydnabyddedig
  • swyddog banc neu gymdeithas adeiladu
  • bargyfreithiwr
  • cadeirydd neu gyfarwyddwr cwmni cyfyngedig
  • ciropodydd
  • comisiynydd llwon
  • cynghorydd - lleol neu sirol
  • gwas sifil - parhaol
  • deintydd
  • cyfarwyddwr, rheolwr neu swyddog personél cwmni sydd wedi cofrestru i dalu TAW
  • peiriannydd gyda chymwysterau proffesiynol
  • canolwr gwasanaethau ariannol, er enghraifft brocer stoc neu yswiriant
  • swyddog yn y gwasanaeth tân
  • cyfarwyddwr angladdau
  • asiant yswiriant mewn cwmni cydnabyddedig - amser llawn
  • newyddiadurwr
  • Ynad Heddwch
  • ysgrifennydd cyfreithiol - cymrawd neu aelod cyswllt yn y Sefydliad Ysgrifenyddion a Chynorthwywyr Cyfreithiol
  • trwyddedai tŷ tafarn
  • swyddog llywodraeth leol
  • rheolwr neu swyddog personél cwmni cyfyngedig
  • aelod, aelod cyswllt neu gymrawd corff proffesiynol
  • Aelod Seneddol
  • Swyddog yn y Llynges Fasnachol
  • gweinidog crefydd gydnabyddedig yn cynnwys Seientiaeth Gristnogol
  • nyrs - cofrestredig
  • swyddog yn y lluoedd arfog
  • optegydd
  • paragyfreithiwr - ardystiedig, cymwysedig neu aelod cyswllt o Sefydliad y Paragyfreithwyr
  • unigolyn gydag anrhydedd - OBE neu MBE
  • fferyllydd
  • ffotograffydd - proffesiynol
  • swyddog heddlu
  • Swyddog yn Swyddfa’r Post
  • llywydd neu ysgrifennydd sefydliad cydnabyddedig
  • Swyddog Byddin yr Iachawdwriaeth
  • gweithiwr cymdeithasol
  • cyfreithiwr
  • syrfëwr
  • athro neu ddarlithydd
  • swyddog undeb llafur
  • asiant teithio - cymwysedig
  • prisiwr neu arwerthwr - cymrawd neu aelod cyswllt yn y gymdeithas gorfforedig
  • Swyddog Gwarant neu Brif Is-Swyddog

Proffesiynau na dderbynnir

Ni allwch gadarnhau hunaniaeth rhywun os ydych:

  • yn feddyg, oni bai eich bod yn datgan eich bod yn adnabod yr ymgeisydd yn dda (er enghraifft mae’n ffrind da) a’ch bod yn ei adnabod yn hawdd o’i lun
  • gweithio i Swyddfa Basbort EF
  • yn gweithio yn Adran Fisâu a Mewnfudo y DU ac yn ymwneud â cheisiadau am ddinasyddiaeth Brydeinig neu’r hawl i fyw’n barhaol yn y Deyrnas Unedig