Cyfweliadau pasbort

Efallai y bydd angen cyfweliad fideo arnoch os nad ydych erioed wedi cael pasbort y DU o’r blaen, neu os daeth eich hen basbort i ben beth amser yn ôl.

Mae’r cyfweliad yn ein helpu i gadarnhau pwy ydych chi a bod y cais am basbort yn perthyn i chi.

Mae’n rhan bwysig o ddiogelu’ch hunaniaeth. Mae’n atal pobl eraill rhag gwneud cais am basbort yn eich enw chi.

Sut mae’n gweithio

Os oes angen cyfweliad arnoch, byddwn yn anfon llythyr atoch yn gofyn i chi ffonio am apwyntiad.

Ar ddiwrnod eich apwyntiad byddwch yn cael e-bost yn cynnwys dolen i’r cyfweliad ar-lein.

Bydd y cyfweliad yn parhau am oddeutu 30 munud.

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau i chi efallai na fydd rhywun sy’n ceisio dwyn eich hunaniaeth yn eu gwybod. Byddwn hefyd yn gwirio bod eich llun yn edrych fel chi.

Ni fyddwch yn cael eich pasbort newydd ar y diwrnod. Byddwn yn cynnal gwiriadau terfynol ar eich cais cyn i ni anfon eich pasbort newydd.

Help os oes gennych anabledd

Pan fyddwch yn ffonio i drefnu’ch apwyntiad, dywedwch wrthym os oes arnoch angen:

  • dehonglydd iaith arwyddion
  • rhywun i fod gyda chi yn ystod y cyfweliad, megis rhiant neu ofalwr

Os oes gennych anabledd meddyliol neu gorfforol a fyddai’n eich atal rhag cymryd rhan mewn cyfweliad, bydd angen i chi anfon llythyr gan feddyg.

Dylai’r llythyr esbonio pam na allwch fynychu ac a ywch anabledd yn debygol o fod yn barhaol. Cynhwyswch ef gyda’ch dogfennau.