Rheolau ar gyfer lluniau pasbort digidol

Os nad yw eich llun yn cyd-fynd, i’r rheolau gallech wynebu problemau gyda’ch cais neu pan fyddwch yn teithio.

  1. Cefndir a golau

    Rhaid i’ch llun gael:

    • cefndir plaen, lliw golau - heb wead na phatrwm
    • golau sefydlog - dim cysgodion ar eich wyneb neu tu ôl i chi
    • dim gwrthrychau y tu ôl i chi
  2. Wyneb a mynegiant

    Gwnewch yn siŵr:

    • bod y llun yn debygrwydd da i chi ac wedi ei gymryd o fewn y mis diwethaf
    • bod eich wyneb i gyd yn y golwg gyda’ch llygaid ar agor
    • eich bod yn ddifynegiant - dim gwenu â ceg ar gau
    • nad oes adlewyrchiad na disgleirdeb (os oes raid i chi wisgo sbectol)
    • nad ydych chi’n gwisgo penwisg (oni bai ei bod am resymau crefyddol neu feddygol)

    Lluniau o fabanod a phlant:

    • nid oes rhaid i blant dan 1 oed fod a’u llygaid ar agor
    • nid oes rhaid i blant dan 6 oed fod yn ddifynegiant
  3. Ansawdd a fformat

    Rhaid i’ch llun fod:

    • mewn lliw, heb effeithiau na hidlyddion
    • yn eglur a heb ‘lygaid coch’
    • heb ei altro - ni allwch gywiro eich llun pasbort