Cod llun ar gyfer lluniau pasbort digidol

Gall bythau lluniau a siopau roi cod llun i gwsmeriaid gyda’u lluniau printiedig.

Pan fydd cwsmeriaid yn gwneud cais am basbort y DU ar-lein, maent yn nodi’r cod i adalw eu llun digidol. Ychwanegir y llun yn uniongyrchol ar y cais am basbort. Mae Swyddfa Basbort Ei Fawrhydi yn gwirio bod yr holl luniau’n bodloni’r rheolau ar gyfer pasbortau’r DU.

Mae’r canllaw hwn yn rhoi cyngor i gyflenwyr lluniau ar sut i ddarparu’r cod llun i gwsmeriaid, a chyfarwyddiadau technegol ar gyfer sefydlu’r gwasanaeth.

Sut i ddarparu’r cod llun i gwsmeriaid

Er mwyn galluogi eich cwsmeriaid i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, mae angen i chi:

  • cynnal eich lluniau pasbort digidol yn ddiogel ar y rhyngrwyd
  • trosi’r cyfeiriad rhyngrwyd HTTPS llawn (URL) yn fersiwn fyrrach
  • darparu’r cyfeiriad rhyngrwyd byrrach (URL) i gwsmeriaid a’i ddisgrifio fel cod llun
  • darparu manylion ynghylch sut y gall cwsmeriaid gysylltu â chi os oes problem gyda’u llun digidol

Cyfarwyddiadau technegol ar gyfer sefydlu’r gwasanaeth

Bydd angen i chi sefydlu proses ddiogel ar gyfer lanlwytho, storio a throsglwyddo lluniau digidol eich cwsmeriaid ar westeiwr sy’n hygyrch i’r cyhoedd ar y rhyngrwyd.

Rhaid i’r llun digidol:

Rhaid darparu URL byr i’r cwsmer ar ffurf is-barth (1-6 nod), parth lefel uchaf (2-3 nod) a llwybr (6-8 nod), er enghraifft: photo.co/yh8Y6K2s

Rhaid i’r URL byr ddefnyddio HTTPS a rhaid iddo naill ai ddychwelyd delwedd JPEG, neu ailgyfeirio i ddelwedd JPEG, nid tudalen we neu CAPTCHA.

Bydd tocyn JSON Web Signature (JWS) yn cael ei anfon gyda phob cais yn y pennyn Awdurdodi. Dylai’r llofnod hwn gael ei ddilysu gan ddefnyddio ein hallwedd gyhoeddus gyhoeddedig i gyfyngu’r gallu i adalw lluniau i Swyddfa Basbort Ei Fawrhydi yn unig.

Y ‘sub’ yn y tocyn JWS yw URL byr HTTPS y cod llun (er enghraifft https://photo.co/yh8Y6K2s) a dylid ei wirio.

Enghraifft o god llun