Polisi preifatrwydd

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn ymwneud â’r gwasanaeth gwneud cais am basbort ar-lein sy’n cael ei redeg gan Swyddfa Basbort EF.

Trwy gytuno i’r datganiad, rydych chi’n deall:

  • y bydd y manylion a roddoch yn cael eu gwirio yn erbyn gwybodaeth a gedwir gan sefydliadau eraill i benderfynu a ddylid cyhoeddi pasbort neu dynnu pasbort yn ôl
  • y byddwn yn cadw eich data yn electronig ac y gallwn ei ddefnyddio i wirio bod ein systemau yn gweithio’n ddiogel ac effeithiol
  • y gallwn basio gwybodaeth ymlaen am eich pasbort neu ddogfennau cysylltiedig i sefydliadau yn y Deyrnas Unedig a thramor pan fyddwch yn defnyddio eich pasbort, caffael gwasanaeth neu pan fydd er lles y cyhoedd i wneud hynny
  • y gallwn ofyn am adborth trwy ddolenni ac arolygon wedi ymgeisio

Darllenwch bolisi preifatrwydd Swyddfa Basbort EF i gael gwybod sut rydym yn storio ac yn diogelu eich gwybodaeth.

Gwybodaeth y byddwn yn gofyn amdani

Pan fyddwch chi’n ymgeisio am basbort y Deyrnas Unedig fe ofynnir i chi am amrywiaeth o wybodaeth, gan gynnwys eich enw, dyddiad geni, manylion cyswllt a llun.

Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi am wybodaeth ychwanegol, er enghraifft os nad yw’ch gwybodaeth yn cyfateb i’r hyn a gedwir gan Swyddfa Basbort EF, neu os oes angen i chi ofyn i rywun gadarnhau pwy ydych.

Bydd y wybodaeth a roddwch ar-lein yn cael ei chadw dros dro ac yn ddiogel yn unol â pholisi preifatrwydd Swyddfa Basbort EF. Rydym yn storio cwcis ar eich cyfrifiadur a gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn yn ein polisi cwcis. Rydym yn gwneud hyn er mwyn i chi allu symud ymlaen a chwblhau eich cais. Ni fydd eich gwybodaeth a’ch lluniau a gafodd eu lanlwytho yn cael eu cadw’n barhaol hyd nes i chi gyflwyno’ch cais.

Byddwn yn cadw’r holl luniau a manylion ynglŷn â rhyw a dyddiad geni dros dro am hyd at 6 mis. Nid yw’r lluniau hyn yn cael eu cadw gydag unrhyw wybodaeth bersonol arall. Bydd hyn yn cynnwys lluniau, data ynglŷn â rhyw a dyddiad geni ar gyfer ceisiadau nad ydynt wedi’u cwblhau a’u cyflwyno’n llawn, neu sydd wedi’u terfynu. Rydym yn gwneud hyn i brofi’r offer rydym yn eu defnyddio ac i wella ein gwasanaeth.

Os na fyddwch yn cwblhau ac yn cyflwyno’ch cais am basbort, bydd yr holl wybodaeth bersonol arall a roddwch yn eich cais yn cael ei ddileu o fewn 24 awr.

Manylion talu

Darperir y rhan talu o’r gwasanaeth hwn gan Wordplay yn unol â’n telerau ac amodau. Nid yw Swyddfa Basbort EF yn casglu nac yn storio unrhyw ran o’ch gwybodaeth ariannol.

Gwneud cais gyda Gwirio ac Anfon Digidol Swyddfa’r Post

Darperir y rhan dalu o wasanaeth Gwirio ac Anfon Digidol Swyddfa’r Post gan Swyddfa’r Post yn unol â’n telerau ac amodau.

Adborth atodol

Rydym yn croesawu eich barn ynglŷn â’r gwasanaeth hwn. Rydym yn gwahodd adborth drwy ddolenni ar ein gwefan a holiaduron wedi ymgeisio. Byddwn yn defnyddio’r hyn a ddywedir gennych er mwyn gwella’r gwasanaeth hwn a gwasanaethau cysylltiedig.

Defnydd o’r safle

Ar wahân i’r data a roddwch, rydym hefyd yn casglu gwybodaeth ddienw am ddefnyddio’r safle. Mae hyn yn ein helpu i weld sut y defnyddir y gwasanaeth a sut allwn ni ei wneud yn well. Mae Swyddfa Basbort EF yn rhannu’r data hwn gyda Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth ac yn cydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data.

Darllenwch siarter gwybodaeth y Swyddfa Gartref i weld sut i ofyn i gael gweld eich gwybodaeth neu gwyno am sut y’i defnyddir.